Yr Her

Sut mae´n gweithio

Dros bedair wythnos, bydd pobl ifanc yn defnyddio ernes £10 i gychwyn eu syniadau busnes.

Mae'n rhaglen ddifyr a rhyngweithiol iawn sy'n cyflwyno addysg ariannol a menter a gwella sgiliau allweddol, gan gynnwys cyfathrebu, creadigrwydd, datrys problemau, gwaith tîm a hyder.

 

Cynllun Her Pedair Wythnos 

 

Amlinellir pedair wythnos yr Her isod:

1 - Dyma £10!

Bydd y timau'n ymchwilio ac yn penderfynu ar gynnyrch neu wasanaeth i fuddsoddi eu £10 ynddo.

2 - Dechrau Arni

Bydd angen i'r timau ddod o hyd i ddeunyddiau neu gynhyrchion, paratoi cyflwyniadau gwerthu, a chynllunio digwyddiadau gwerthu.

 

3 - Dal ati

Bydd y myfyrwyr yn paratoi eu cynnyrch neu wasanaeth ac yn hyrwyddo eu digwyddiadau gwerthu.

 

4 - Talu'n ôl a chadw'r elw

Ar ddiwedd yr Her, bydd y myfyrwyr yn penderfynu sut i wario eu helw neu ei gyfrannu fel rhodd ar ôl ad-dalu'r ernes £10 yn ogystal â chyfraniad gwaddol o £1 i gefnogi'r banc 10X.

Cystadlaethau Wythnosol

   

Ar ddiwedd wythnos 1 a wythnos 3, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau.

Wythnos 1 - Dylunio Logo

Rydym am weld logos sy'n creu effaith ac yn cyfleu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Wythnos 3 - Cyflwyniad Gwerthu

Dychmygwch pe byddai'n rhaid i'r myfyrwyr werthu eu cynnyrch neu wasanaeth mewn 60 eiliad yn unig. Beth fydden nhw'n ei ddweud?

 

 

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o arloesedd, creadigrwydd a datrys problemau ar gyfer yr holl wobrau, ochr yn ochr â straeon am waith tîm a datblygiad personol.

 

Cystadleuaeth Genedlaethol

 

Bydd Cystadleuaeth Genedlaethol yr Her 10X yn cael ei chynnal ar ddiwedd y rhaglen pedair wythnos.

Mae pedair gwobr wahanol:
  1. Tîm/Busnes Gorau yn Gyffredinol
  2. Gorau o ran Cynaliadwyedd
  3. 10X er Daioni
  4. Unigolyn Mwyaf Ysbrydoledig

 

Edrychwch ar Arddangosfa 2023 yr Her 10X i gael ysbrydoliaeth
 

Gwyliwch y Dosbarth Meistr Rhagarweiniol i baratoi ar gyfer Her 10X 2024


 

Dysgwch fwy am 10X yn ein llyfryn 2022.

 

Llyfryn 2022

 

Gwiriwch y Telerau ac Amodau am arweiniad ar gynhyrchion a gwasanaethau y gellir eu masnachu o dan yswiriant Young Enterprise. Mae'n rhaid i sefydliadau sicrhau bod ganddynt yswiriant priodol ar waith ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan bolisi yswiriant Young Enterprise.

 

Chwilio am rywbeth y gallwch chi a'ch pobl ifanc ei wneud cyn i'r Her ddechrau?

Beth am edrych ar ein hadnoddau DIY a chynllun gwers 10X. Mae'r adnoddau hyn yn cynnig ffordd hawdd i bobl ifanc gymryd eu camau cyntaf mewn addysg ariannol a menter a'u paratoi ar gyfer yr Her 10X.