Cynlluniau Gwers 10X

Rydym yn gwybod ei bod yn gallu cymryd llawer o amser i ddatblygu adnoddau addysg fenter effeithiol a diddorol. Dyna pam rydym wedi creu cynlluniau gwers parod i'w haddysgu sy'n cyflwyno cyllidebu, buddsoddi a chynilo tymor hir i bobl ifanc mewn ffordd ddifyr a diddorol.

Mae pob cynllun gwers yn cynnwys arweiniad hawdd ei ddilyn ar gyfer addysgwyr sy'n golygu eu bod yn rhwydd eu cyflwyno p'un a ydych yn newydd i gyflwyno addysg ariannol neu eisoes yn ei haddysgu.

Gellir cyflwyno'r 5 gwers yn hyblyg, ar hyd y flwyddyn academaidd, i gyflwyno pynciau ariannol pwysig i'ch myfyrwyr. Gellir eu cyflwyno hefyd i baratoi ar gyfer yr her ochr yn ochr â'r prosiect 10X DIY neu ochr yn ochr â'r Her 10X.

Dyma'r gwersi:

Nodau tymor byr, canolig a hir

Mae'r cynllun gwers byr hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i'r syniad o nodau ariannol tymor byr, canolig a hir trwy ofyn iddynt greu collage nodiadau gludiog

Paru cardiau

Mae'r cynllun gwers byr hwn yn cyflwyno'r dysgwyr i'r amryw fathau o gynilion tymor hir a buddsoddiadau ac yn eu helpu i ddeall pam y gallai pobl ddewis gwahanol opsiynau i gyflawni eu nodau ariannol.

Agwedd tuag at risg

Bydd y cynllun gwers hwn yn helpu'r dysgwyr i ddeall beth yw agwedd tuag at risg trwy wneud cwis personoliaeth.

Cyllideb bersonol

Mae'r cynllun gwers hwn yn cyflwyno'r dysgwyr i gyllidebau personol a sut i'w cydbwyso trwy amryw weithredoedd.

Senario cynilion tymor hir a buddsoddiadau

Bydd y cynllun gwers hwn yn helpu i atgyfnerthu'r hyn a ddysgwyd am gynilion tymor hir a buddsoddiadau trwy ddefnyddio senarios bywyd go iawn.

COFRESTRWCH AR Y PLATFFORM I GAEL MYNEDIAD AT YR ADNODDAU YN SYTH