Datblygu Sgiliau

Sgiliau ar gyfer gwaith a bywyd

Datblygu sgiliau ar gyfer gwaith a bywyd gyda'r Her 10X  

Mae'r Her 10X yn defnyddio Fframwaith Priodoleddau Mentrus Young Enterprise i olrhain a gwerthuso cynnydd cyfranogwyr ar draws yr wyth cymhwysedd allweddol:

 

1. Gallu i Addasu
Gallu unigolyn i newid ei weithredoedd, cyfeiriad neu agwedd at wneud pethau er mwyn gweddu i sefyllfa newydd.
2. Cyfathrebu
Y gallu i wrando, ysgrifennu a siarad yn effeithiol er mwyn cyflwyno a chyfnewid gwybodaeth a syniadau mewn ffordd glir a chryno.
3. Hyder
Y gallu i greu a chynnal hunan-gred gref mewn sgiliau personol, galluoedd a thebygolrwydd o lwyddiant.
4. Datrys Problemau'n Greadigol
Y gallu i gasglu ac archwilio gwybodaeth, meddwl yn greadigol, a dadansoddi sefyllfaoedd er mwyn creu datrysiadau i broblemau.
5. Gallu Ariannol
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth ariannol, rheoli arian yn dda a gwneud penderfyniadau gwybodus i gynllunio ar gyfer dyfodol ariannol llwyddiannus.
6. Gwaith Tîm
Y gallu i ddatblygu ymgysylltiad â thîm, cydweithio, rhannu gwybodaeth ac esbonio syniadau i bobl eraill ar yr un pryd â rheoli'ch teimladau personol.
7. Awydd i Dyfu
Y gred fod modd datblygu'r rhan fwyaf o alluoedd trwy ymroddiad a gwaith caled.
8. Ymwybyddiaeth Fasnachol
Y gallu i wneud ymchwil er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o sefydliad a'r amgylchedd ehangach.