Cwestiynau Cyffredin am yr Her 10X




CYMRYD RHAN YN YR HER 10X

Pwy sy'n gallu cymryd rhan yn yr Her 10X?
Gall unrhyw berson ifanc 11 - 19 oed gymryd rhan a bydd angen i'r holl gyfranogwyr gael eu cofrestru ar gyfer yr Her gan sefydliad/oedolyn. Gall myfyrwyr 18+ oed mewn Addysg Uwch gymryd rhan hefyd.

Pryd mae'r Her yn cael ei chynnal yn 2024?
Bydd yr her yn digwydd o 29 Ebrill - 24 Mai 2024. Er bod y platfform ar agor trwy gydol y flwyddyn i gael mynediad at yr adnoddau yn hyblyg ar draws y cwricwlwm ac i roi digon o amser i chi baratoi ar gyfer yr her.

A all cyfranogwyr weithio ar eu pen eu hunain yn ogystal ag mewn tîm?
Gallant, wrth gwrs! Mae croeso i chi gymryd rhan yn yr Her 10X fel unigolyn neu fel rhan o grŵp.

Awgrymwn fod timau'n cynnwys rhwng dau ac wyth o gyfranogwyr - weithiau gall timau sy'n cynnwys mwy nag wyth o gyfranogwyr achosi i fyfyrwyr ymddieithrio yn y grŵp.

OPSIYNAU CYLLIDO AR GYFER YR HER 10X

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hunangyllido a gofyn am gyllid?
Yn ystod y broses gofrestru, gofynnir i chi a hoffech hunangyllido neu gyflwyno cais am gyllid 10X:
- Mae hunangyllido'n golygu y bydd eich sefydliad yn darparu'r £10 i'ch myfyrwyr ei ddefnyddio ar ddechrau'r Her.
- Mae gofyn am gyllid yn golygu y byddwch chi'n llenwi ffurflen ar-lein syml sy'n nodi faint rydych chi'n gofyn i'w fenthyg gan y Banc Her 10X.
- Bydd ein tîm cyllid yn rhoi gwybod i chi a fu'ch cais yn llwyddiannus. Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael, felly cyflwynwch gais yn gynnar!

Faint o gyllid y gellir gwneud cais amdano?
Mae isafswm o £50 ac uchafswm o £500 o gyllid 10X ar gael i'w fenthyg fesul cofrestru.
Gallwch benderfynu sut i rannu'r arian hwn ymhlith y cyfranogwyr; Gallech ddewis cynnig £10 y myfyriwr neu £10 y cwmni myfyrwyr.

Sut mae ceisiadau am gyllid yn cael eu hasesu?
Mae cyllid yr Her 10X yn gyfyngedig a chaiff ceisiadau eu hasesu ar sail y cyntaf i'r felin.

Sut mae cyllid gan Young Enterprise yn cael ei dderbyn?
Os bydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, caiff ei drosglwyddo i chi yn union cyn i'r Her ddechrau. Byddwn yn anfon cadarnhad atoch pan fydd y trosglwyddiad electronig yn cael ei anfon i'ch cyfrif banc enwebedig. Bydd angen i'r arian hwn gael ei roi i'ch cyfranogwyr.

SUT GALLAF WNEUD CAIS AM GYLLID?

Bydd y ffurflen gais am gyllid yn agor ar 16 Tachwedd 2023, ar y porth athrawon ar ôl i chi fewngofnodi, a bydd yn cau ar 17 Ebrill 2024 i sicrhau bod gennym ddigon o amser i drosglwyddo’r arian i ysgolion mewn pryd ar gyfer yr her.

ERNES MYFYRWYR, ELW AC AD-DALU

Faint o amser a gaiff myfyrwyr i wneud elw gyda'r arian a roddir iddynt yn ernes?
Rhoddir her i'r cyfranogwyr wneud cymaint o elw â phosibl yn ystod pedair wythnos yr Her.

Sut mae myfyrwyr yn derbyn eu £10?
Byddwch chi'n gyfrifol am ddosbarthu'r £10 i'r cyfranogwyr a goruchwylio'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Her. Peidiwch â dosbarthu unrhyw arian cyn i'r Her 10X ddechrau.

A fydd rhaid i fyfyrwyr ad-dalu'r £10?
Bydd, ac os bydd y cyfranogwyr yn gwneud elw, gofynnir iddynt gyfrannu £1 arall fesul £10 a roddwyd yn ernes (rhodd waddol) i'n helpu ni i gynnal Banc yr Her 10X.

Beth os na all myfyrwyr ad-dalu'r £10?
Os nad yw cyfranogwyr yn gallu ad-dalu'r £10 llawn, dylent ddychwelyd £8 o leiaf. Bydd eich sefydliad yn gyfrifol am gasglu'r ernes a'r rhodd waddol gan y cyfranogwyr ar ôl cwblhau'r Her. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nhelerau ac Amodau llawn yr Her 10X.

Beth fydd yn digwydd i'r elw a wneir o'r £10?
Eich myfyrwyr sydd i benderfynu sut yr hoffent roi neu wario eu helw.

Bydd llawer o dimau'n dewis rhoi eu helw i gyd neu ran ohono i elusennau lleol a chenedlaethol, neu i achos lleol yn eu cymuned neu ysgol.

CYMORTH AR GYFER YR HER 10X

Pa gymorth sydd ar gael yn ystod yr Her?
Mae'r Tîm 10X wedi ymrwymo i'ch helpu drwy gydol yr Her. Os bydd arnoch angen cymorth ar unrhyw adeg, gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy anfon neges e-bost at info@10xchallenge.org.uk

A oes adnoddau ar gael i helpu i baratoi ar gyfer yr Her?
Mae llawer o adnoddau ar gael ar-lein i'ch helpu i gynllunio a chynnal 10X cyn gynted ag y byddwch wedi cadarnhau y byddwch yn cymryd rhan yn yr Her. Wrth baratoi ar gyfer yr her, gallwch gyflwyno'r cynlluniau gwers a'r prosiect 10X DIY. Mae'r adnoddau hyn ar gael ar blatfform ar-lein 10X i ysgolion - byddwch yn cael manylion mewngofnodi pan fyddwch wedi cofrestru.

CYSTADLEUAETH 10X GENEDLAETHOL

Sylwch fod manylion Cystadlaethau Wythnosol a Chystadleuaeth Genedlaethol yr Her 10X ar gael ar dudalen we'r Her.

Sut mae ceisiadau'n cyrraedd y rhestr fer?
Bydd rhestr fer o geisiadau'n cael ei llunio gan banel mewnol o Young Enterprise, a bydd panel allanol o feirniaid yn penderfynu ar yr enillwyr ar gyfer pob categori o'r rhestr fer.

Sawl cais y gall pob sefydliad ei gyflwyno i'r gystadleuaeth?
Gall pob sefydliad gyflwyno uchafswm o bum cais.

Sut gellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth?
Bydd angen i bob cais ar gyfer y gystadleuaeth gael ei lanlwytho trwy'r platfform ar-lein. Bydd manylion a chyfarwyddiadau llawn ar gael ar-lein ar blatfform ysgolion 10X.

10X AR-LEIN

Beth sydd ar gael ar 10X ar-lein?
Bydd y platfform hwn yn eich tywys trwy bedair wythnos yr Her, gan ddarparu mynediad unigryw at adnoddau a fydd yn eich helpu i baratoi o flaen llaw ac yn ystod yr Her 10X.

Sut gallaf gael at y platfform hwn?
Pan fyddwch yn cofrestru ac yn gosod eich cyfrinair, bydd gennych fynediad llawn at y platfform athrawon.

Er mwyn i'ch pobl ifanc gael mynediad at y platfform myfyrwyr, anfonwch yr URL unigryw a gewch trwy e-bost wrth gofrestru atynt (os na allwch ddod o hyd i'r neges e-bost, edrychwch yn eich ffolder post sothach). Gallwch ychwanegu tîm a sefydlu eu cyfrif eich hun hefyd trwy'r adran 'Rheoli Timau' o'r platfform athrawon.

Pan fyddant wedi sefydlu eu cyfrif, gallant fewngofnodi a chael at yr holl adnoddau 10X. Gofynnwn iddynt gwblhau holiadur byr ar ôl yr her, a fydd yn caniatáu iddynt fyfyrio ar eu cynnydd yn ystod yr her.

Sut gall myfyrwyr gael at y platfform?
Bydd athrawon yn cael URL y bydd angen ei rannu â'r holl fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan yn yr Her. Pan fydd myfyrwyr yn defnyddio'r URL unigryw hwn, gofynnir iddynt sefydlu cyfrif a sefydlu eu tîm 10x myfyrwyr neu fel unigolyn.

Pan fyddant wedi sefydlu eu cyfrif, gallant fewngofnodi a chael at yr holl adnoddau 10X. Gofynnwn iddynt gwblhau holiadur byr ar ôl yr her, a fydd yn caniatáu iddynt fyfyrio ar eu cynnydd yn ystod yr her.

FAINT O AMSER MAE´R HER YN EI GYMRYD?

Faint o amser bob wythnos y mae angen i ni ei neilltuo ar gyfer yr Her 10X?
Os gallwch gynnal yr Her o fewn amserlen cwricwlwm eich ysgol, mae hynny'n wych, ond rydym yn gwybod nad yw hyn bob amser yn bosibl! Byddem yn argymell eich bod yn neilltuo o leiaf awr yr wythnos - gallai hyn ddigwydd amser cinio neu ar ôl ysgol. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn penderfynu parhau i ddatblygu eu syniadau a pharatoi eu cynhyrchion yn eu hamser eu hunain hefyd.

Beth os wyf eisiau i'm myfyrwyr gymryd rhan mewn cynnal yr Her?
Lle y bo'n bosibl, anogwch eich myfyrwyr i wneud yr holl benderfyniadau am eu syniadau. Rydym yn darparu ardal i fyfyrwyr ar y wefan lle gall eich myfyrwyr gael at yr holl adnoddau a gwybodaeth y bydd arnynt eu hangen. Mae'n ffordd wych iddynt gael profiad ymarferol o fod yn entrepreneur a bydd yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau y bydd arnynt eu hangen mewn bywyd a gwaith i baratoi ar gyfer eu dyfodol.

A all myfyrwyr weithio ar eu pen eu hunain yn ogystal ag mewn tîm?
Gallant, wrth gwrs! Mae croeso i fyfyrwyr gymryd rhan yn yr Her 10X fel unigolyn neu fel rhan o dîm 10X.

Os ydych yn credu y gallai amseriadau neu ddyddiadau'r Her 10X fod yn anodd i chi eleni, cymerwch gip ar 10X DIY gan fod hwnnw'n cynnig dull mwy hyblyg o lawer o ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd

BETH YW 10X DIY?

Ymarfer damcaniaethol yw 10X DIY lle mae pobl ifanc yn cwblhau pythefnos cyntaf yr Her 10X heb agwedd ymarferol cynhyrchu neu werthu eu nwyddau/gwasanaeth. Gellir ei ddefnyddio fel prosiect annibynnol neu fel ffordd o helpu'r myfyrwyr i ysgogi eu syniadau 10X fel y byddant yn barod i ddechrau yn nhymor y gwanwyn. Gan ddefnyddio'r Canllaw 10X DIY a'r dogfennau isod, gall myfyrwyr feddwl am fusnes sy'n dechrau gyda £10 damcaniaethol, ymchwilio iddo o bell a'i gynllunio, gan greu'r logo a chyflwyniad gwerthu wrth fynd! Mae 10X DIY yn gallu cael ei gyflwyno'n hyblyg p'un a yw'ch myfyrwyr yn yr ysgol neu'n dysgu o bell, yn cael eu harwain gan athro/athrawes neu'n ei wneud heb oruchwyliaeth.

Cofrestrwch i gael mynediad at y deunyddiau yn syth yma.

Mae rhagor o fanylion am yr Her 10X yn yr adran ‘Telerau ac Amodau’

Telerau ac Amodau’r Her 10X