10X DIY

Mae hyblygrwydd 10X DIY yn golygu y gellir ei gyflwyno p'un a yw'ch myfyrwyr yn yr ysgol neu'n dysgu o bell, yn cael eu harwain gan athro/athrawes neu'n ei wneud heb oruchwyliaeth.

Ymarfer damcaniaethol yw 10X DIY lle mae pobl ifanc yn cwblhau pythefnos cyntaf yr Her 10X heb gynhyrchu na gwerthu nwyddau. Gellir ei ddefnyddio fel prosiect annibynnol neu fel ffordd i fyfyrwyr sbarduno eu syniadau 10X fel eu bod yn barod i ddechrau yn nhymor yr haf.

Gan ddefnyddio'r Canllaw 10X DIY a'r dogfennau isod, gall myfyrwyr feddwl am fusnes sy'n dechrau gyda £10 damcaniaethol, ymchwilio iddo o bell a'i gynllunio, gan greu'r logo a chyflwyniad gwerthu wrth fynd!

Meddyliwch amdano!

Pa fusnes gallech chi ei ddechrau gyda £10?
Crëwch syniad, enw a logo ar gyfer eich busnes.

Awgrymiadau ar gyfer Cynhyrchion a Gwasanaethau

Ymchwiliwch iddo!

Dysgwch beth hoffai eich cwsmeriaid ei gael gan eich cynnyrch neu wasanaeth trwy ofyn i'ch ffrindiau a theulu gwblhau'r arolwg hwn trwy sgyrsiau, ffôn neu e-bost.
Arolwg Ymchwil y Farchnad o Bell

Cynlluniwch ef!

Cwblhewch y cynllun busnes i amlygu rhannau allweddol eich busnes.
 
Cynllun Busnes

Cyflwynwch ef!

Defnyddiwch y cynllun isod i ysgrifennu cyflwyniad gwerthu a fyddai'n annog buddsoddwyr posibl i gefnogi'ch busnes.
Sylwch: Gweithgarwch damcaniaethol yw 10X DIY ac ni ddylai unrhyw gyfranogwyr fod yn marchnata nac yn gwerthu unrhyw un o'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau maen nhw'n meddwl amdanynt.
Cynllun cyflwyniad gwerthu

 

Tasg ymestynnol

Defnyddiwch y ddalen isod i ddysgu am gyllidebu.
Hoffem gael eich barn ar ôl i chi gwblhau 10X DIY, felly neilltuwch ychydig funudau i lenwi ein harolwg.
Gweithgarwch Cyllidebu