Perthnasedd i´r Cwricwlwm

Sut mae 10X yn cefnogi´r cwricwlwm a rhaglenni astudio

Yr Her 10X

 

  • Mae'n cyfrannu at raglen yrfaoedd sefydlog, strwythuredig ysgol trwy helpu myfyrwyr i ennill hyder a pharatoi ar gyfer byd gwaith
  • Mae'n darparu tystiolaeth o Feincnodau arweiniad gyrfaol da Gatsby
  • Mae'n cynnig cyfle i gael profiadau ystyrlon fel cyflogai a dysgu sut beth yw gwaith a'r hyn sydd ei angen i lwyddo yn y gweithle
  • Mae'n cefnogi llwyddiant Ofsted trwy gyfrannu at ddyfarniadau ynghylch effeithiolrwydd arweinyddiaeth, rheolaeth, datblygiad personol a lles trwy baratoi myfyrwyr ar gyfer cam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae'n cyfrannu tuag at gwricwlwm eang a chytbwys
  • Mae'n rhoi cyfle i godi dyheadau a datblygu nodweddion entrepreneuraidd, gan gynorthwyo myfyrwyr i bontio'n llwyddiannus i gam nesaf eu bywyd
  • Mae'n cysylltu dysgu yn y cwricwlwm â'r dyfodol, gan gynnwys cyfleoedd dysgu cyd-destunol mewn Mathemateg Ariannol a Saesneg. Mae'n cefnogi Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd (ABGIE)

 

 

  • At sylw pob ysgol yn yr Alban - Mae gan yr Her 10X achrediad SQA bellach Darllenwch fwy
Cliciwch ar gyfer Llyfryn 10X yr Alban

 

Deilliannau Dysgu 10X

Ein heffaith yn 2020

  • Cymerodd 21,719 o bobl ifanc ran yn yr Her 10X yn 2020 o 391 o ganolfannau.
  • Dywedodd 100% o addysgwyr fod yr Her 10X wedi cyfrannu at eu rhaglen gyrfaoedd a menter ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.
  • Dywedodd 92% o addysgwyr fod yr Her 10X wedi cefnogi´r hyn yr oedd eu pobl ifanc yn ei ddysgu mewn pynciau academaidd fel Saesneg a Mathemateg.
  • Roedd 85% o addysgwyr yn cytuno´n gryf neu´n cytuno bod cymryd rhan yn yr Her 10X wedi gwella galluoedd ariannol
  • Dangosodd 71% o bobl ifanc gynnydd mewn un o´r priodweddau hyn o leiaf:
    • Cyfathrebu
    • Hyder
    • Datrys problemau´n greadigol
    • Gallu ariannol
    • Gwaith tîm
    • Agwedd at ddysgu
    • Ymwybyddiaeth fasnachol

Mae 10X yn cefnogi Meincnodau Arweiniad Gyrfaol Da Gatsby

Mae´r Her 10X yn cynorthwyo ysgolion i ddangos eu bod yn darparu Arweiniad Gyrfaol Da yn erbyn Meincnodau Gatsby. Mae holl raglenni Young Enterprise yn annog datblygu ffordd fentrus o feddwl a´r agwedd fentrus sy´n angenrheidiol mewn addysg a chyflogaeth er mwyn i bob person ifanc gyrraedd ei botensial.

Trwy gymryd rhan yn yr Her 10X, cewch gyfle i ofyn am gysylltiad ystyrlon â chyflogwyr neu gyflogeion a helpu pobl ifanc i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o´r gweithle. Gall y profiad hwn ysgogi´ch myfyrwyr i gael gwybod mwy am y sgiliau sy´n ofynnol i bontio´n llwyddiannus i gam nesaf eu bywyd.

Mae 10X yn datblygu gallu ariannol pobl ifanc

Mae´r Her 10X yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu gallu ariannol pobl ifanc trwy eu helpu i ddeall rôl bwysig arian mewn busnes ac yn ein bywydau pob dydd. Mae cymryd rhan yn yr Her 10X yn addysgu pobl ifanc i reoli arian yn dda a gwneud dewisiadau ariannol doeth ar gyfer eu busnes, ar yr un pryd â´r rhoi´r wybodaeth, y sgiliau a´r hyder iddynt reoli eu harian eu hunain yn gyfrifol yn awr ac yn y dyfodol.

Mae´r Her 10X yn cefnogi ystod o ddeilliannau dysgu addysg ariannol o´r Fframwaith Cynllunio Addysg Ariannol, gan gynnwys:

  • Gwneud penderfyniadau ariannol: Mae myfyrwyr yn deall y gallai eu blaenoriaethau a´u hagweddau personol mewn perthynas â ffactorau fel prynu´n lleol, masnach deg a masnachu moesegol effeithio ar eu cysyniad o werth am arian.
  • Cynllunio a chyllidebu: Gall myfyrwyr gynllunio a chyllidebu ar gyfer cynilo a gwario yn awr ac yn y dyfodol, a dangos y gallant reoli eu harian mewn ffordd ragweithiol trwy olrhain eu cyllid ac addasu cynlluniau os bydd amgylchiadau´n newid.
  • Cysylltiadau personol ac economaidd â´r byd ehangach: Mae myfyrwyr yn deall rhai o oblygiadau cymdeithasol, moesol, moesegol ac amgylcheddol eu penderfyniadau ariannol nhw a´r rhai a wneir gan y llywodraeth, elusennau a busnesau.


Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio´r fframweithiau cynllunio i helpu i gyflwyno addysg ariannol yn eich ysgol yma.