10X DIY

Chwilio am gam cyntaf difyr i fyd busnes y gellir ei gyflwyno gan athrawon a rhieni, neu ei arwain gan y bobl ifanc eu hunain?

Mae 10X DIY yn brosiect damcaniaethol sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc ddychmygu pa fusnes y gallent ei greu gyda £10, heb gynhyrchu na gwerthu nwyddau.

Gellir defnyddio 10X DIY fel prosiect annibynnol neu fel ffordd i bobl ifanc ddechrau eu syniadau 10X fel eu bod yn barod ar gyfer yr Her 10X. Mae'r adnoddau'n hyblyg, felly gall pobl ifanc ddysgu sut i ddechrau busnes p'un a ydynt yn yr ysgol neu gartref.

 

Sut mae'n gweithio?

Yn ystod y prosiect, bydd y bobl ifanc yn gweithio trwy'r canllaw a'r templedi a ddarparwyd i greu, ymchwilio, cynllunio ac yna cyflwyno syniad ar gyfer busnes.

Mae'r prosiect wedi'i ddylunio i'w gwblhau heb lawer o oruchwyliaeth ac rydym wedi darparu'r holl adnoddau sy'n ofynnol i gymryd rhan, gan gynnwys:

  • Canllaw 10X DIY
  • Templed Arolwg Ymchwil y Farchnad
  • Templed Cynllun Busnes
  • Templed Cyflwyniad Gwerthu

 

Pam cymryd rhan?

Mae 10X DIY yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol, gan gynnwys:

  • Creadigrwydd
  • Cyfathrebu - ysgrifenedig a llafar
  • Cynllunio a threfnu
  • Datrys problemau
  • Ymwybyddiaeth fasnachol

 

 

COFRESTRWCH AR Y PLATFFORM I GAEL MYNEDIAD AT YR ADNODDAU YN SYTH